Tackling poverty together: a guide for schools in Wales
In this guide we set out some small steps schools can take to help make learning more accessible for children and families living in poverty in Wales.
Schools can help to address the impact of child poverty in 4 ways:
- Taking active steps to prevent poverty-related stigma, treating all children and their families with compassion, dignity and respect.
- Addressing the root causes of poverty, by helping families maximise their incomes, access all the support they are entitled to, and, if appropriate, supporting parents and carers to work.
- Reducing the cost of the school day, recognising that every penny and pound matters to some families.
- Providing relief for families suffering from a lack of resources like food, clothing or other material goods.
Yn y canllaw hwn, rydyn ni’n cyflwyno rhai camau bychain y gall ysgolion eu cymryd i wneud dysgu’n fwy hygyrch i blant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru.
Fe all ysgolion helpu i fynd i’r afael ag effaith tlodi plant mewn pedair ffordd:
- Cymryd camau pwrpasol i gael gwared ar stigma sy’n gysylltiedig â thlodi, gan drin yr holl blant a’u teuluoedd mewn ffordd sy’n dangos tosturi, urddas a pharch.
- Mynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi, drwy helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm cymaint ag y bo modd, drwy eu helpu i gael yr holl gymorth y mae ganddyn nhw’r hawl iddo, ac os yw hynny’n addas, drwy helpu rhieni a gofalwyr i weithio.
- Lleihau cost y diwrnod ysgol, gan gydnabod bod pob ceiniog a phunt yn bwysig i rai teuluoedd.
- Rhoi cymorth i deuluoedd sy’n brin o adnoddau fel bwyd, dillad a nwyddau eraill.