Pwysigrwydd cefnogaeth ysgol yn ystod yr argyfwng costau byw
Rydym yn siarad gyda llawer o deuluoedd fel rhan o brosiect Cost y Diwrnod Ysgol. Mae hyn yn rhoi gipolwg gwerthfawr ar farn rhieni ynghylch costau ysgol mewn tirwedd economaidd sy'n fwyfwy heriol: "Gall costau ysgol ar ben y costau cynyddol eraill, yn sgil chwyddiant, deimlo'n llethol" (Rhiant, RhCT); "Mae mam yn dweud 'mae'n rhaid i ti flaenoriaethu' ond rwy'n blaenoriaethu! Mae popeth yn codi, rwy'n mynd am yr opsiynau rhata’, gallwch gwtogi faint a fynnoch, ond daw bwyd a dillad ar ben popeth. Mae'n anodd." (Rhiant, CnPT).
Mae cost gynyddol hanfodion sylfaenol, ansicrwydd cyflogaeth a newidiadau i fudd-daliadau wedi creu newid aruthrol yn ein cymdeithas. Mae llawer o deuluoedd yn dioddef mewn distawrwydd: "Mae'n anodd i rieni ofyn am help gydag arian gan eu bod yn teimlo y byddant yn cael eu beirniadu" (Rhiant, RhCT). Er mwyn goresgyn rhwystrau felly, mae rhieni'n dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi ethos drws agored, croesawgar a chyfeillgar yn ysgol eu plant: "Mae nhw’n agos-atoch ac yn anfeirniadol" (Rhiant, RhCT) gyda chyfathrebu ysgol i gartref sy'n glir, yn gyson, yn gyfoes, yn sensitif ac yn cael ei ddarparu yn aml-gyfrwng: "Maen nhw'n dda iawn am gyfathrebu â ni. Mae gyda nhw bedair neu bum ffordd wahanol: neges destun, llythyrau, ap Teacher2Parent, ap arall a Facebook, y mae nhw’n ei ddiweddaru bob dydd" (Rhiant, RhCT).
Mae ansawdd y berthynas rhwng rhieni/gofalwyr a swyddogion ymgysylltu, staff swyddfa ac addysgu yn effeithio'n fawr ar sut mae teuluoedd yn teimlo am eu hysgolion: "Y fenyw sy'n rhedeg y swyddfa, mae hi'n rhagorol... Mae’n adnabod pawb ac mae hi wedi buddsoddi yn y gymuned ac yn cymryd amser i siarad ag unrhyw un am unrhyw beth, mawr neu fach" (Rhiant, RhCT). Mae ysgol mewn safle breintiedig wrth galon y gymuned a gall roi cymorth i deuluoedd mewn sawl ffordd. Tynnwyd sylw at bwysigrwydd ymgysylltu cadarn â theuluoedd a ffocws cymunedol drwy hwb buddsoddiad o £25m gan Lywodraeth Cymru i roi cymorth i ysgolion yn y meysydd allweddol hyn a helpu i sicrhau bod pob disgybl yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd yr ysgol.
Yn ogystal â chynllunio tymor hir, mae atebion chwim a newidiadau bach y gall pob ysgol eu gwneud. Un o'r mathau symlaf o gefnogaeth yw'r defnydd penodol o hysbysfyrddau, llythyrau, cylchlythyrau, gwefannau a’r cyfryngau cymdeithasol i gyfeirio at wasanaethau cymorth neu fesurau i gynyddu incwm: "Fuodd yr ysgol yn wych, yn atgoffa fi i wblhau’r ffurflen mynediad cais i’r ysgol uwchradd ac atgoffa am y cymhorthdal gwisg ysgol hefyd" (Rhiant, RhCT). Awgrymodd un rhiant, drwy wneud hyn, fod cymorth a chefnogaeth wedi dod yn "fwy ‘gweladwy’ fel nad oedd angen i rieni/gofalwyr ofyn os oedd yn codi cywilydd arnynt."
Mae teuluoedd yn gwerthfawrogi agwedd hamddenol tuag at wisg ysgol: "Dim ond bod lliwiau’r ysgol arno, mae’r ysgol yn hyblyg" (Rhiant, CnPT)). Mae cynlluniau ailgylchu gwisg ysgol a banciau dillad gwisgo fyny yn nodweddiadol o’n hysgolion arfer gorau. Does dim dwywaith bod diwrnodau di-wisg yn medru tynnu sylw at wahaniaethau ariannol: "Mae gweithgareddau hwyl a sbri e.e. Diwrnod y Llyfr x3 yn gallu bod yn ddrud er nad yw’n hanfodol gall rhoi niwed gweld bo 90% o’r dosbarth wedi gwisgo fyny a rhai ddim yn medru..." (Rhiant, RhCT). Mae diwrnodau dathlu ac elusen yn gallu bod yn gostus iawn ac mae rhieni yn galw am ddigonedd o rybudd: "Mae gwisgoedd yn ddrud iawn i'w prynu ar fyr rybudd... pe gallai'r ysgol wneud cynllunydd misol neu gynllunydd bob tymor o leiaf, byddai'n rhoi mwy o amser i rieni gynilo neu wneud gwisgoedd ei hun" (Rhiant, RhCT). Cyfeiriwyd at roddion elusennol ar-lein dewisol a dienw fel modd i leddfu aml geisiadau codi arian: "Yr wyf wedi gorfod ystyried ar adegau sgîl-effeithiau cymdeithasol peidio â rhoi" (Rhiant, RhCT); "Llynedd o ni'n teimlo gyda'r ysgol hon mai’r cyfan o’n ni’n ei wneud oedd rhoi. Odd e’n teimlo fel rhywbeth drwy'r amser. Dewch â rhodd i hyn, dewch â rhodd i’r llall. Dim ond un incwm oedd gyda ni ac ‘odd e’n teimlo'n gyson" (Rhiant, RhCT). Mae rhai ysgolion yn blaenoriaethu ystyr yr elusen yn hytrach na gwerthu nwyddau elusennol sy'n gallu achosi rhai plant i deimlo allan ohoni. Nid oes lle yma i gynnwys eu holl syniadau gwych; megis cynlluniau talu, clybiau cynilo, partneriaethau cymunedol. Ond hoffwn gloi drwy talu teyrnged i’r modd y mae ysgolion wedi bod yn gefn yw teuluoedd, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd anodd diwethaf. Rwy’n cofio’n glir geiriau un prifathro, ac yntau gyda 13 aelod o staff yn absennol ar y pryd. Mae’n adlewyrchu ymrwymiad, angerdd a brwdfrydedd pob pennaeth yr ydym wedi cael y fraint o weithio gyda hwy: "Da chi’n ymladd drostyn nhw; ‘da chi’n ymladd dros y gymuned".
Cyhoeddwyd fersiwn o’r erthygl hon yng nghylchgrawn Plant yng Nghymru Gwanwyn 2022. Mae copi Saesneg ar gael yma.