Removing the means test at mealtimes / Dileu'r prawf modd ar gyfer prydau bwyd
Young people in Wales feel overlooked, and they are calling on politicians to address the inequity in the school system by removing the means test at mealtimes and extending universal free school meals to learners in secondary school. School meals and their many benefits should not be limited to those in younger year groups. While every child in primary school can now access a free school meal, once learners enter year 7, they can only continue to get free school meals if their family has an earned income of less than £7,400 a year. This threshold is wholly inadequate and has not been increased since 2018.
Mae pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu, ac maen nhw'n galw ar wleidyddion i fynd i'r afael â'r annhegwch yn y system ysgol drwy ddileu’r prawf modd ar gyfer prydau bwyd ac ymestyn prydau ysgol am ddim i ddysgwyr yn yr ysgol uwchradd. Ni ddylid cyfyngu prydau ysgol a'u manteision niferus i'r rhai mewn grwpiau blynyddoedd iau. Er bod pob plentyn yn yr ysgol gynradd bellach yn gallu cael pryd ysgol am ddim, unwaith y bydd dysgwyr yn mynd i flwyddyn 7, dim ond os oes gan eu teulu incwm o lai na £7,400 y flwyddyn y gallant barhau i gael prydau ysgol am ddim. Mae'r trothwy hwn yn gwbl anaddas ac nid yw wedi cynyddu ers 2018.